MockCOP 2019 Wrexham

Cymreag isod Sign up your school for MockCOP so your Year 9-12 learners can experience a Model United Nations Climate Change Conference and have a chance to become Climate Champions. For the regional conferences, each school will be assigned a country to research, then each school will send a delegation of students to the conference representing that country. During the event, they will propose resolutions and amendments and negotiate their country’s position. They will also have an opportunity to plan action in their own schools and communities on climate change. This is a fantastic opportunity to deliver cross-curricular learning and develop ‘ethical informed citizens of Wales and the World’, while also supporting learners to make an impact on the crucial issue of climate change. Learners will: Develop knowledge of different nations and their perspectives Learn how international coorperation and the UN works Develop knowledge of global issues and how they are interlinked Build skills in speaking and listening, research, negotiation, conflict resolution and compromise Develop empathy and self-confidence Plan projects in their own schools and communities on climate change All participants in a regional MockCOP will be given the opportunity to apply for a final overnight event in Cardiff in November 2019. This will include a MockCOP in the Senedd, as well as a fully funded overnight stay with an evening of inspiration to include workshops and talks – all attendees of this final event will have the opportunity to become Climate Champions.   Please note, participants are asked to bring a packed lunch to regional events.  MockCOP is a Size of Wales and Welsh Centre for International Affairs (WCIA) project funded by the ScottishPower Foundation. In order to deliver the project, participant data will be shared between the partners and the funder. Please see each organisation’s website for more information about their Privacy Policies.  Cofrestrwch eich ysgol i gymryd rhan mewn digwyddiad MockCOP, fel bod eich disgyblion Blwyddyn 9-12 yn cael y profiad o fynychu Cynhadledd Model y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, a chael cyfle i fod yn Hyrwyddwyr Hinsawdd. Ar gyfer y cynadleddau rhanbarthol, bydd gwlad yn cael ei dyrannu i bob ysgol ymchwilio iddi, yna byddant yn anfon grŵp o fyfyrwyr i’r gynhadledd sy’n cynrychioli’r wlad honno. Yn ystod y digwyddiad, byddant yn cynnig atebion a gwelliannau, ac yn trafod sefyllfa eu gwlad. Byddant yn cael cyfle hefyd, i gynllunio camau gweithredu yn eu hysgolion a’u cymunedau eu hunain ar newid yn yr hinsawdd. Mae hwn yn gyfle gwych i gyflwyno dysgu trawsgwricwlaidd ac i ddatblygu ‘dinasyddion gwybodus a moesegol o Gymru a’r byd’, ac ar yr un pryd, cefnogi dysgwyr i gael effaith ar y mater hollbwysig o newid yn yr hinsawdd. Bydd dysgwyr yn: Datblygu gwybodaeth am wahanol genhedloedd a’u safbwyntiau Dysgu sut mae cydweithio rhyngwladol a’r Cenhedloedd Unedig yn gweithio Datblygu gwybodaeth am faterion byd-eang, a sut mae’n nhw’n cysylltu Adeiladu sgiliau siarad a gwrando, ymchwil, trafod, datrys gwrthdaro a chyfaddawdu Datblygu empathi a hunanhyder Cynllunio prosiectau yn eu hysgolion a’u cymunedau eu hunain ar newid yn yr hinsawdd Bydd pawb sy’n cymryd rhan mewn digwyddiad MockCOP rhanbarthol yn cael y cyfle i wneud cais i gymryd rhan mewn digwyddiad terfynol dros yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2019. Bydd hyn yn cynnwys digwyddiad MockCOP yn y Senedd, a’r cyfle i dreulio noson yn cael eich ysbrydoli, ac i aros dros nos am ddim. Bydd pawb sy’n mynychu’r digwyddiad terfynol hwn yn cael y cyfle i fod yn Hyrwyddwyr Hinsawdd. Gofynnir i gyfranogwyr ddod â phecyn bwyd eu hunain i’r digwyddiadau rhanbarthol. Mae Mock COP yn brosiect Maint Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), sydd yn cael ei ariannu gan ScottishPower Foundation. Er mwyn cyflwyno’r prosiect, bydd data cyfranogwyr yn cael eu rhannu rhwng y partneriaid a’r cyllidwr. Ewch i wefannau’r sefydliadau i gael rhagor o wybodaeth am eu Polisi Preifatrwydd.