Hyfforddiant ar yr Adnodd Goleuadau Traffig / Traffic Lig…

(scroll down for English) Ymddygiadau rhywiol: Hyfforddiant ar yr Adnodd Goleuadau Traffig Mae hyfforddiant Adnodd Goleuadau Traffig Ymddygiad Rhywiol Brook, a gydnabyddir yn genedlaethol, yn darparu ymateb amlasiantaeth amlwg iawn sy’n helpu gweithwyr proffesiynol i adnabod ac ymateb yn briodol i ymddygiadau rhywiol. Yn yr hyfforddiant hwn, bydd y cyfranogion yn cael cefndir yr Adnodd Goleuadau Traffig a’r rhesymeg y tu ôl iddo ac yn cael gwybod sut i’w ddefnyddio ynghyd â gwerthusiad ohono. Mae’r adnodd yn cefnogi pobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc i wybod pa fathau o ymddygiad sy’n iach ac yn rhan o ddatblygiad a pha fathau o ymddygiad y mae angen trafodaeth bellach yn eu cylch. Mae’r Adnodd Goleuadau Traffig yn ffordd wych o sicrhau cysondeb ar draws sefydliadau mawr. Dywedodd Alexa Gainsbury, Cydlynydd Iechyd Rhywiol a Beichiogrwydd yn yr Arddegau Cernyw, «fod datblygiad rhywiol cadarnhaol yn hanfodol i bob plentyn ac unigolyn ifanc o ran datblygu hunaniaeth gadarnhaol a diogel, hunanwerth a hunan-barch. Mae’n darparu’r sylfaen a fydd yn eu helpu i ddatblygu i fod yn bobl ifanc – ac, yn y pen draw, yn oedolion – hapus, iach a chyfrifol. Drwy ddefnyddio’r adnodd hwn i adnabod a rhoi sylw i ymddygiad sydd ddim yn iach yn gynnar, gall pobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc helpu i atal ymddygiadau rhywiol niweidiol rhag datblygu a’u cadw’n ddiogel, yn hapus ac yn iach.» Mae’r Adnodd Goleuadau Traffig Ymddygiad Rhywiol yn cefnogi pobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc drwy eu helpu i adnabod ac ymateb yn briodol i ymddygiadau rhywiol. Mae’r adnodd yn defnyddio system goleuadau traffig i gategoreiddio ymddygiadau rhywiol pobl ifanc ac fe’i dyluniwyd gyda’r nod o helpu gweithwyr proffesiynol i wneud y canlynol: Gwneud penderfyniadau am ddiogelu plant a phobl ifanc Asesu ac ymateb yn briodol i ymddygiad rhywiol mewn plant a phobl ifanc Deall datblygiad rhywiol iach a gwahaniaethu rhyngddo ac ymddygiad niweidiol Mae’n addas ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc.  FAQs Ydy’r adeilad yn hygyrch? Ydy, mae’r ystafell hyfforddi yn hygyrch. Ydych chi’n darparu cinio? Na – nid ydym yn darparu cinio.  Ym mha iaith y bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno? Saesneg.  Beth yw’r polisi ar gyfer canslo/cael ad-daliad? Sylwch y byddwn yn codi tâl arnoch os nad ydych chi’n mynychu ar ôl i chi gael lle, fel y nodwyd yn ein polisi canslo sydd i’w weld ar ein gwefan. —————————————————————— Sexual Behaviours: Traffic Light Tool Training Brook’s nationally recognised Sexual Behaviours Traffic Light Tool training provides a highly visible, multi-agency response that helps professionals identify and respond appropriately to sexual behaviours. In this training, participants will be provided with the background, rationale, application and evaluation of our Traffic Light Tool which supports professionals working with young people in knowing what behaviours are healthy and part of development and what behaviours should be discussed further. The Traffic Light Tool is a great way to ensure consistency across large organisations. “Positive sexual development is integral to all children and young people’s development of a positive and secure identity, self-worth and self-esteem” said Alexa Gainsbury, Cornwall’s Teenage Pregnancy and Sexual Health Co-ordinator. “It provides the building blocks to help them develop into happy, healthy and responsible young people and eventually adults. By using this tool to identify and address unhealthy behaviour at an early age professionals working with children and young people can help prevent subsequent sexually harmful behaviours from developing and keep them safe, happy and healthy”. The highly acclaimed Sexual Behaviours Traffic Light Tool supports professionals working with children and young people by helping them to identify and respond appropriately to sexual behaviours. The tool uses a traffic light system to categorise the sexual behaviours of young people and is designed to help professionals: Make decisions about safeguarding children and young people Assess and respond appropriately to sexual behaviour in children and young people Understand healthy sexual development and distinguish it from harmful behaviour Suitable for anybody working with young people.   FAQs Is the building accessible? Yes the training room is accessible. Is lunch provided? No – lunch is not provided. What language will the course be delivered in? English.  What is the cancellation/ refund policy? Please note you will be charged if, having been offered a place, you fail to attend as set out in our cancellation policy which can be found on our website.